Registrar
Cofrestrydd, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Math o swydd wag: Parhaol/Llawn Amser Categori: Casgliadau (Proffesiynol / Rheoli) Ystod cyflog: Gradd F: £45,119.99 - £47,704.86 Oriau: 35 awr Gofyniad lefel iaith Gymraeg: Dymunol Crynodeb o''r Swydd Rheoli''r gwaith o gyflawni rhaglenni benthyca Amgueddfa Cymru yn effeithiol, i mewn ac allan, yn unol â pholisi a gweithdrefnau''r Amgueddfa, ac yn unol â safonau amgueddfeydd cenedlaethol a rhyngwladol. Rheoli''r prosesau a''r logisteg sy''n rhan annatod o''r rhaglen fenthyca a sicrhau bod proffil cenedlaethol a rhyngwladol Amgueddfa Cymru yn cael ei wella drwy ymwneud â phartneriaid a chyflawni''r rhaglen yn effeithlon. Cymhwyso''r egwyddorion rheoli risg priodol i sicrhau bod y casgliadau''n cael eu diogelu ac i reoli risgiau i wrthrychau ar fenthyg. Sicrhau diwydrwydd dyladwy wrth drin a symud gwrthrychau dan ofal Amgueddfa Cymru, gan sicrhau bod y rhwymedigaethau ynglŷn â chydymffurfio â''r gofynion yn cael eu bodloni a''u cynnal. Adolygu a diweddaru''r polisi a''r weithdrefn gyfredol, fel y bo''n briodol, a hybu''r arferion cofrestru gorau ar draws y sefydliad. Sicrhau bod trefniadau mewnforio/allforio priodol ar waith, gan gynnwys rheoli trwyddedau allforio diwylliannol, yswiriant imiwnedd rhag atafaelu, gweithdrefnau''r tollau a chliriadau diogelwch, fel y bo''n briodol. Goruchwylio''r broses o drafod telerau ac amodau ar gyfer benthyca a rheoli''r contractau cysylltiedig gyda chwmnïau trafnidiaeth/negeseuwyr arbenigol, yn ..... full job details .....
Perform a fresh search...
-
Create your ideal job search criteria by
completing our quick and simple form and
receive daily job alerts tailored to you!